Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Llun, 23 Hydref 2023
Amser:
14.00 -
15.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13517
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Simon Gilbert, Pennaeth Cynllunio, Cyngor Caerdydd Darren Joyce, Cyfarwyddwr, The Friendly Trust |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Gilbert, Pennaeth Cynllunio, Cyngor Caerdydd.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ddeiseb P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr, a ystyriwyd yn y cyfarfod diwethaf.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y ddwy ddeiseb i dynnu sylw at y materion a godwyd gan Oxfam Cymru a gofyn am eglurder pellach cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylw’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ati, a dychwelyd ati pan fydd trafodion Cyfnod 1 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) wedi dod i ben.
4.2 P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn - a oedd yn cynnwys apêl gan Aelod i'w hysbysu am gynnydd. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor a gofyn am ddiweddariad ar y sefyllfa ymhen 12 mis.
4.3 P-06-1299 Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at gyngor Rhondda Cynon Taf i ofyn am atebion i nifer o gwestiynau gan gynnwys:
5 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Darren Joyce, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Gyfeillgar.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd.
8 Trafod y dystiolaeth - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd.